Sesiwn iaith Gymraeg. Clustffonau cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer y di-Gymraeg / Welsh language session. Simultaneous translation headset available for non-Welsh speakers.
Mae’r hanesydd bwyd a’r awdur o Gymru, Carwyn Graves, yn cynnal archwiliad hynod ddiddorol i sut mae geirfa i ymwneud â bwyd yn yr iaith Gymraeg wedi pylu dros genedlaethau, a pham mae’r golled dawel hon yn bwysig. Yn ymuno ag ef ar gyfer y drafodaeth hon bydd yr awduron a’r darlledwyr Lowri Haf Cooke a Nerys Howell.
Drwy rannu atgofion a thynnu ar y straeon a’r cyfrifon sydd ar gael, byddwn yn datgelu termau rhanbarthol a oedd unwaith yn gyfoethog o ran ystyr—geiriau sy’n disgrifio blasau, technegau a chynhwysion sy’n unigryw i Gymru. Wrth i iaith datblygu, mae hunaniaeth ddiwylliannol hefyd yn newid.
Ymunwch â ni i brofi a rhannu eich gwybodaeth eich hun am seigiau rhanbarthol a’r iaith fwyd Gymreig, ac i fyfyrio ar yr hyn sydd yn y fantol pan fyddwn yn colli’r geiriau sy’n ein cysylltu â’n tir, ein hanes a’n treftadaeth.
Welsh food historian and author Carwyn Graves hosts a fascinating exploration into how food-related vocabulary in the Welsh language has faded over generations, and why this quiet loss matters.
By sharing memories and drawing on the stories and accounts available, we will uncover regional terms once rich with meaning — words that describe flavours, techniques, and ingredients unique to Wales. As language shifts, so too does cultural identity.
Join us to test and share your own knowledge of regional dishes and Welsh food language, and to reflect on what’s at stake when we lose the words that connect us to our land, history, and heritage.
Lowri Haf Cooke

Yn awdur, darlledwraig a beirniad bwyd a’r celfyddydau, mae Lowri Haf Cooke yn cyfrannu’n gyson i raglenni S4C a’r BBC, a chyhoeddiadau fel Barn a Golwg a Croeso Cymru. Mae hi hefyd yn ymarferydd creadigol mewn ysgolion ledled Cymru, a’i llyfrau diweddaraf yw’r gyfrol Gwledd (Y Lolfa), a’r casgliad hudolus o straeon, atgofion a ryseitiau Amser Nadolig (Sebra).
As an author, broadcaster and arts and restaurant critic, Lowri Haf Cooke has a passion for Welsh food culture. A regular contributor to S4C and BBC programmes and founding editor of Taste Blas magazine, she frequently writes for Golwg, Barn, Y Dinesydd and Visit Wales, and is a creative practitioner in schools all over Wales. Her recent books include Gwledd (Y Lolfa) and Amser Nadolig (Sebra).
Nerys Howell

Nerys Howell is a broadcaster, food author and Welsh food specialist. She has travelled widely promoting Welsh food and drink both in the UK and overseas. Her bilingual books include Wales on a Plate, Welsh Food by Season and Harvest.
Mae Nerys Howell yn awdur bwyd, darlledwr ac arbenigwr bwyd o Gymru. Mae wedi teithio’n eang yn y Deyrnas Unedig a thramor yn hyrwyddo nwyd a diod o Gymru. Mae’n awdur llyfrau dwyieithog gan gynnwys Cymru ar Blat, Bwyd Cymru yn ei Dymor a Cywain.
Carwyn Graves

Awdur, garddwr a ieithgi o Gaerfyrddin. Awdur Afalau Cymru (2018), Welsh Food Stories (2022) a Tir: The Story of the Welsh Landscape (2024). Bu’n rhan o’r grwp fu’n gyfrifol am sefydlu’r casgliad cenedlaethol o afalau Cymreig yng Ngardd Fotaneg Cymru ac yn awr wrthi’n gweithio i gyd-sefydlu elusen newydd i Gymru: Cegin y Bobl.
Carwyn Graves is a an author, public speaker and gardener from Wales. Author of the bestselling Apples of Wales (2018), Welsh Food Stories (2022) and Tir: The Story of the Welsh Landscape (2024). Founding trustee of new Welsh charity, Cegin y Bobl (The People’s Kitchen).